P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sue Jones-Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 14,338 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd, ystorfa i drysorau hanesyddol, artistig a deallusol Cymru. Heb ragor o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd 30 o swyddi’n cael eu colli a gwasanaethau’n cael eu cwtogi’n ddifrifol. Mae rhyddid, ffyniant a datblygiad cymdeithas ac unigolion yn werthoedd dynol sylfaenol, a geir gan ddinasyddion gwybodus sydd â mynediad diderfyn at syniadaeth, diwylliant a gwybodaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Er mwyn sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr i bawb, gofynnwn i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chymorth ariannol, i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn borth gwybodaeth, gan sicrhau cyfleoedd dysgu gydol oes. Ni ellir disgwyl i lyrgelloedd greu eu hincwm eu hunain yn yr un modd â busnesau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ceredigion
· Canolbarth a Gorllewin Cymru